ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 6DEHONGLI

36Yr hyn sy’n cyfrif fel annedd

1

Mae’r paragraff hwn yn nodi rheolau ar gyfer penderfynu beth sy’n cyfrif fel annedd at ddibenion yr Atodlen hon.

2

Mae adeilad neu ran o adeilad yn cyfrif fel annedd—

a

os yw’n cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n addas i’w ddefnyddio fel annedd, neu

b

os yw yn y broses o gael ei adeiladu neu ei addasu at ddefnydd o’r fath.

3

Cymerir bod tir sy’n cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, neu dir a fydd yn cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, fel gardd neu diroedd (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar y tir hwnnw) yn rhan o’r annedd honno.

4

Cymerir bod tir sy’n bodoli er budd annedd, neu dir a fydd yn bodoli er budd annedd, yn rhan o’r annedd honno.

5

Cymerir hefyd fod prif destun trafodiad yn fuddiant mewn annedd, neu’n cynnwys buddiant mewn annedd—

a

os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,

b

os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd, ac

c

os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn yr adeg y caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

6

Yn is-baragraff (5)—

  • mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gytundeb;

  • mae i “cyflawni’n sylweddol” (“substantially performed”) yr un ystyr ag yn adran 14;

  • ystyr “darpariaeth dybio berthnasol” (“relevant deeming provision”) yw unrhyw un neu ragor o adrannau 10 i 13 neu baragraffau 8(1) i (5) o Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau) neu baragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les).

7

Nid yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir at ddiben a bennir yn adran 72(4) neu (5) yn cael ei ddefnyddio fel annedd at ddibenion is-baragraffau (2) na (5).

8

Pan fo adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a grybwyllir yn is-baragraff (7), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-baragraff (2).