ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 6DEHONGLI
Anheddau y tu allan i Gymru
35
(1)
Yn narpariaethau’r Atodlen hon a bennir yn is-baragraff (4), mae cyfeiriadau at “annedd” yn cynnwys cyfeiriadau at annedd a leolir y tu allan i Gymru.
(2)
O ran annedd a leolir yn Lloegr, mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â darpariaethau Deddf Cyllid 2003 (p. 14).
(3)
Wrth gymhwyso’r darpariaethau hynny mewn perthynas ag annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr—
(a)
mae cyfeiriadau at “prif fuddiant” yn yr annedd yn gyfeiriadau at fuddiant cyfatebol yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,
(b)
mae cyfeiriadau at bersonau sydd â hawl lesiannol i fuddiant yn yr annedd fel cyd-denantiaid, tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion yn gyfeiriadau at bersonau sydd â hawl gyfatebol i’r buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu diriogaeth honno,
(c)
mae cyfeiriadau at “trafodiad tir” mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at gaffael buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,
(d)
mae cyfeiriadau at “dyddiad cael effaith” trafodiad tir mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at y dyddiad y caffaelir y buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno, ac
(e)
mae cyfeiriadau at “etifeddiant” yn gyfeiriadau at gaffael buddiant o ystad person ymadawedig yn unol â chyfreithiau’r wlad neu’r diriogaeth honno ynghylch etifeddu eiddo.
(4)
Darpariaethau’r Atodlen hon y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1), (2) a (3) yw—
(a)
paragraff 5(1)(a),
(b)
paragraffau 8(2)(b), (c), (d) ac (e) a (4)(b), (c) a (d),
(c)
paragraff 9(4),
(d)
paragraff 15(1)(b),
(e)
paragraffau 17(2)(b), (c), (d) ac (e) a (4)(b), (c) a (d),
(f)
paragraffau 18(4),
(g)
paragraff 26,
(h)
paragraff 28,
(i)
paragraff 32(2), a
(j)
paragraff 34.
(5)
Pan fo gan blentyn person (“P”) fuddiant mewn annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru—
(a)
mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ganddo neu ganddynt y buddiant hwnnw, a
(b)
nid yw’r plentyn i’w drin felly.
(6)
Nid yw is-baragraff (5)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil i P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).
(7)
Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys pan fo—
(a)
person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,
(b)
D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy’r plentyn, ac
(c)
D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn neu, yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.
(8)
Yn is-baragraff (7), ystyr “dirprwy” yw—
(a)
person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu
(b)
person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).