Trefniadau cyllid arall
33(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy sydd y trafodiad cyntaf o dan drefniant cyllid arall yr ymrwymir iddo rhwng person a sefydliad ariannol.
(2)Mae’r person (yn hytrach na’r sefydliad) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad.
(3)Yn y paragraff hwn—
mae i “sefydliad ariannol” (“financial institution”) yr ystyr a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 10 (rhyddhadau cyllid eiddo arall);
mae i “trafodiad cyntaf” (“first transaction”), mewn perthynas â threfniant cyllid arall, yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1)(a) neu 3(1)(a) o’r Atodlen honno;
ystyr “trefniant cyllid arall” (“alternative finance arrangement”) yw trefniant o fath a grybwyllir ym mharagraff 2(1) neu 3(1) o’r Atodlen honno.