Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwchLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)os yw paragraff 5 yn gymwys.

(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw trafodiad yn dod o fewn is-baragraff (2)—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)paragraff 7 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un annedd), a

(b)paragraff 8 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

(6)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr annedd a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3