C1ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
C1RHAN 2PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL
I1I2C13C1Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
1
Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—
a
os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a
b
os yw paragraff 5 yn gymwys.
2
Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—
a
os yw’r prynwr yn unigolyn,
b
os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac
c
os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn £40,000 neu ragor.
3
Ond nid yw trafodiad yn dod o fewn is-baragraff (2)—
a
os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,
b
os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac
c
os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),
ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
4
Yr amodau yw—
a
nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a
b
bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.
5
Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—
a
paragraff 7 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un annedd), a
b
paragraff 8 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).
6
Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr annedd a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).
Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12