ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 2PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL

Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

3

(1)

Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)

os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)

os yw paragraff 5 yn gymwys.

(2)

Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)

os yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)

os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)

os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn £40,000 neu ragor.

(3)

Ond nid yw trafodiad yn dod o fewn is-baragraff (2)—

(a)

os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)

os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)

os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)

Yr amodau yw—

(a)

nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)

bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)

paragraff 7 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un annedd), a

(b)

paragraff 8 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

(6)

Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr annedd a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).