29(1)Pan fo—
(a)prif destun trafodiad tir ar ffurf buddiant ar wahân i brif fuddiant mewn annedd, a
(b)is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad,
yna, i osgoi unrhyw amheuaeth, effaith paragraff 28 o’r Atodlen hon neu, yn ôl y digwydd, paragraff 3(1) o Atodlen 8, yw fod prif destun y trafodiad i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ar ffurf prif fuddiant mewn annedd.
(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—
(a)prif fuddiant yn yr annedd yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth noeth ar gyfer buddiolwr (“B”),
(b)holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,
(c)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—
(i)mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn B, neu
(ii)mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, a
(d)yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—
(i)mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn y prynwr, neu
(ii)mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.
(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—
(a)person (“B”) yn fuddiolwr o dan setliad pan fo prif fuddiant yn yr annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth,
(b)gan B, o dan delerau’r setliad, hawl i—
(i)meddiannu’r annedd am oes, neu
(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd,
(c)holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,
(d)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, ac
(e)yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.
(4)Wrth bennu a yw is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys i drafodiad, anwybydder paragraffau 30 a 35(5).