ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL

29Setliadau ac ymddiriedolaethau noeth

1

Pan fo—

a

prif destun trafodiad tir ar ffurf buddiant ar wahân i brif fuddiant mewn annedd, a

b

is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad,

yna, i osgoi unrhyw amheuaeth, effaith paragraff 28 o’r Atodlen hon neu, yn ôl y digwydd, paragraff 3(1) o Atodlen 8, yw fod prif destun y trafodiad i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ar ffurf prif fuddiant mewn annedd.

2

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—

a

prif fuddiant yn yr annedd yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth noeth ar gyfer buddiolwr (“B”),

b

holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,

c

yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

i

mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn B, neu

ii

mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, a

d

yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

i

mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn y prynwr, neu

ii

mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.

3

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—

a

person (“B”) yn fuddiolwr o dan setliad pan fo prif fuddiant yn yr annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth,

b

gan B, o dan delerau’r setliad, hawl i—

i

meddiannu’r annedd am oes, neu

ii

incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd,

c

holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,

d

yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, ac

e

yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.

4

Wrth bennu a yw is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys i drafodiad, anwybydder paragraffau 30 a 35(5).