ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL

Priodau a phartneriaid sifil yn prynu ar eu pen eu hunain

25

(1)

Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—

(a)

os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)

os yw’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)

os nad yw priod neu bartner sifil y prynwr yn brynwr yn y trafodiad.

(2)

Mae’r trafodiad i’w drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai priod neu bartner sifil y prynwr wedi bod yn brynwr.

(3)

Caiff unigolion sy’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, eu trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe baent yn cyd-fyw oni bai—

(a)

eu bod wedi gwahanu o dan orchymyn llys sydd ag awdurdodaeth gymwys,

(b)

eu bod wedi gwahanu drwy weithred wahanu, neu

(c)

eu bod wedi gwahanu mewn gwirionedd mewn amgylchiadau lle mae’r gwahanu yn debygol o fod yn barhaol.