xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 5LL+CDARPARIAETHAU ATODOL

Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin trafodiadau fel trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwchLL+C

24(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y rhyng-drafodiad”), oherwydd cymhwyso paragraff 9 neu 18, yn cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(2)Caiff y rhyng-drafodiad ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddibenion y Ddeddf hon o ddiwedd y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5).

(3)Rhaid i’r prynwr yn y rhyng-drafodiad ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.

(4)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y paragraff hwn—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) i ben, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3