ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL
Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin trafodiadau fel trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
24
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y rhyng-drafodiad”), oherwydd cymhwyso paragraff 9 neu 18, yn cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
(2)
Caiff y rhyng-drafodiad ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddibenion y Ddeddf hon o ddiwedd y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5).
(3)
Rhaid i’r prynwr yn y rhyng-drafodiad ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.
(4)
Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y paragraff hwn—
(a)
cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) i ben, a
(b)
cynnwys hunanasesiad.