ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL
23Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y trafodiad o dan sylw”), oherwydd paragraff 8(4) neu 17(4), yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b).
2
Ni chaniateir ystyried y trafodiad tir (“y trafodiad dilynol”) a oedd yn bodloni’r amod ym mharagraff 8(4)(b) neu 17(4)(b) at ddibenion paragraff 8(2)(b) neu 17(2)(b) wrth benderfynu pa un a yw unrhyw drafodiad trethadwy arall yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
3
Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
a
pan fo’r trafodiad dilynol yn cael effaith ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, neu cyn hynny, a
b
pan na fo’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.
4
Caiff y prynwr, wrth ddychwelyd y ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, drin yr annedd a brynir y cyfeirir ati ym mharagraff 8(4) neu 17(4) fel pe bai wedi disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith; ac mewn achos o’r fath mae’r trafodiad o dan sylw i’w drin fel pe na bai erioed wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.
5
Mae is-baragraff (6) yn gymwys os effaith bod y trafodiad o dan sylw yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad hwnnw.
6
Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr—
a
o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);
b
ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth felly), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT.