ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 3PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG
Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interim
18
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)
pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a
(b)
pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.
(2)
Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—
(a)
sy’n dod o fewn paragraff 11(2),
(b)
pan fo un yn unig o’r anheddau a brynir yn annedd gymwys, ac
(c)
nad yw paragraff 15 yn gymwys iddo.
(3)
Wrth benderfynu pa un a yw annedd a brynir yn annedd gymwys at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 13(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—
(a)
y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;
(b)
y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.
(4)
At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—
(a)
mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 17(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,
(b)
mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu
(c)
mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.
(5)
Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—
(a)
pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—
(i)
sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 17(2)(b), a
(ii)
sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 17(2)(a);
(b)
pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—
(i)
sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a
(ii)
sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;
(c)
pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—
(i)
sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a
(ii)
sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.
(6)
Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.