ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 3PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG
16Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa
Nid yw paragraff 15 yn gymwys os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant yn yr annedd gymwys y cyfeirir ati ym mharagraff 15(1)(a), a bod yr annedd honno yn—
a
annedd yr oedd gan y prynwr brif fuddiant arall ynddi, yn union cyn y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, a
b
annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.