ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 3PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG

Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arall

15

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)

os un yn unig o’r anheddau a brynir sy’n annedd gymwys, a

(b)

os, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)

oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i un o’r anheddau a brynir, a

(ii)

yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor.

(2)

Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) yn rifersiwn ar les—

(a)

nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)

sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(3)

Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)(i), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b)(ii) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).

(4)

Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GM×CBmath

Ffigwr 6

pan fo—

GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

CB yn—

  1. (a)

    canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu

  2. (b)

    pan fo—

    1. (i)

      y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

    2. (ii)

      hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,

    canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.

(5)

Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GMCDmath

Ffigwr 7

pan fo—

GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.

(6)

At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—

(a)

os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

(b)

os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.

(7)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)

paragraff 16 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa), a

(b)

paragraff 17 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).