Eithriad ar gyfer is-anneddLL+C
14(1)Nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys os yw’n is-annedd i unrhyw un neu ragor o’r anheddau eraill a brynir.
(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae un o’r anheddau a brynir (“annedd A”) yn is-annedd i un arall o’r anheddau a brynir (“annedd B”)—
(a)os yw annedd A wedi ei lleoli o fewn tiroedd annedd B, neu o fewn yr un adeilad ag annedd B, a
(b)os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i annedd B yn hafal i ddwy ran o dair o swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu’n fwy na dwy ran o dair o’r swm hwnnw, sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r anheddau a ganlyn ar y cyd—
(i)annedd A,
(ii)annedd B, a
(iii)pob un o’r anheddau eraill a brynir (os oes rhai) sydd wedi eu lleoli o fewn tiroedd annedd B, neu o fewn yr un adeilad ag annedd B.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 5 applied (ynghyd â modifications) (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 12
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3