ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 3PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG

Trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch

11

(1)

Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)

os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)

os yw paragraff 13 neu 15 yn gymwys.

(2)

Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)

os yw’r prynwr yn unigolyn, a

(b)

os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”).

(3)

Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr anheddau a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

(4)

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(5)

Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).