xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 24(10))

ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prynwr yn unigolyn a’r trafodiad yn ymwneud ag annedd;

(b)mae Rhan 3 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prynwr yn unigolyn a’r trafodiad yn ymwneud ag anheddau lluosog;

(c)mae Rhan 4 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan na fo’r prynwr yn unigolyn;

(d)mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth atodol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch dychwelyd ffurflenni treth ac ynghylch cymhwyso’r darpariaethau yn Rhannau 2, 3 a 4 o dan amgylchiadau penodedig;

(e)mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaeth ddehongli.

RHAN 2PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL

Rhagarweiniad

2Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) yn achos trafodiad sy’n ymwneud ag annedd pan fo’r prynwr yn unigolyn.

Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

3(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)os yw paragraff 5 yn gymwys.

(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw trafodiad yn dod o fewn is-baragraff (2)—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)paragraff 7 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un annedd), a

(b)paragraff 8 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

(6)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr annedd a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

4Pan fo paragraff 9 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arall

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad—

(a)os oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i’r annedd a brynir, a

(b)os yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor,

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(2)Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1) yn rifersiwn ar les—

(a)nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(3)Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).

(4)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GM × CB

Ffigwr 4

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CB yn—

    (a)

    canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu

    (b)

    pan fo—

    (i)

    y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

    (ii)

    hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,

    canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.

(5)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

Ffigwr 5

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.

(6)At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—

(a)os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

(b)os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.

Dau brynwr neu ragor

6Pan fo dau brynwr neu ragor sy’n unigolion mewn trafodiad—

(a)mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 3 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr;

(b)mae rhyng-drafodiad (o fewn ystyr paragraff 9(2)) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 9 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa

7Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant—

(a)mewn annedd yr oedd gan y prynwr, yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, brif fuddiant arall ynddi, a

(b)mewn annedd sydd, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

Eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa

8(1)Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os yw’r prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr ar y pryd, mewn trafodiad tir arall (“y trafodiad blaenorol”) a oedd yn cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oedd gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith, unrhyw brif fuddiant yn yr annedd a werthir,

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b), ac

(e)os nad yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi caffael prif fuddiant mewn unrhyw annedd arall gyda’r bwriad iddi fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad oedd y ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, caiff yr annedd a brynir ddod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os oedd y prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr, mewn trafodiad tir arall sy’n cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, yn gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oes gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith, brif fuddiant yn yr annedd a werthir, a

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad ag annedd sy’n dod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, gweler paragraff 23.

Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interim

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a

(b)pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.

(2)Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—

(a)sy’n dod o fewn paragraff 3(2), a

(b)nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw trafodiad yn dod o fewn paragraff 3(2) at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—

(a)mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 8(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,

(b)mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(c)mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—

(a)pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(b), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(a);

(b)pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;

(c)pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.

RHAN 3PRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANHEDDAU LLUOSOG

Rhagarweiniad

10Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) yn achos trafodiad sy’n ymwneud ag anheddau lluosog pan fo’r prynwr yn unigolyn.

Trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch

11(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)os yw paragraff 13 neu 15 yn gymwys.

(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r prynwr yn unigolyn, a

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”).

(3)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr anheddau a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

(4)Pan fo paragraff 18 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(5)Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).

Dau brynwr neu ragor

12Pan fo dau brynwr neu ragor sy’n unigolion mewn trafodiad—

(a)mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 11 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr;

(b)mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 18(2)) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 18 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

Dwy annedd gymwys neu ragor

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw o leiaf ddwy o’r anheddau a brynir yn anheddau cymwys.

(2)Mae annedd a brynir yn annedd gymwys at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r annedd a brynir yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys os yw’r eithriad a ddarperir ym mharagraff 14 yn gymwys (eithriad ar gyfer is-annedd).

Eithriad ar gyfer is-annedd

14(1)Nid yw annedd a brynir yn annedd gymwys os yw’n is-annedd i unrhyw un neu ragor o’r anheddau eraill a brynir.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae un o’r anheddau a brynir (“annedd A”) yn is-annedd i un arall o’r anheddau a brynir (“annedd B”)—

(a)os yw annedd A wedi ei lleoli o fewn tiroedd annedd B, neu o fewn yr un adeilad ag annedd B, a

(b)os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i annedd B yn hafal i ddwy ran o dair o swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu’n fwy na dwy ran o dair o’r swm hwnnw, sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r anheddau a ganlyn ar y cyd—

(i)annedd A,

(ii)annedd B, a

(iii)pob un o’r anheddau eraill a brynir (os oes rhai) sydd wedi eu lleoli o fewn tiroedd annedd B, neu o fewn yr un adeilad ag annedd B.

Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arall

15(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os un yn unig o’r anheddau a brynir sy’n annedd gymwys, a

(b)os, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i un o’r anheddau a brynir, a

(ii)yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor.

(2)Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1)(b) yn rifersiwn ar les—

(a)nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(3)Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)(i), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b)(ii) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).

(4)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GM × CB

Ffigwr 6

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CB yn—

    (a)

    canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu

    (b)

    pan fo—

    (i)

    y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

    (ii)

    hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,

    canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.

(5)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

Ffigwr 7

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.

(6)At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—

(a)os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

(b)os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.

(7)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)paragraff 16 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa), a

(b)paragraff 17 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfa

16Nid yw paragraff 15 yn gymwys os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant yn yr annedd gymwys y cyfeirir ati ym mharagraff 15(1)(a), a bod yr annedd honno yn—

(a)annedd yr oedd gan y prynwr brif fuddiant arall ynddi, yn union cyn y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, a

(b)annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa

17(1)Nid yw paragraff 15 yn gymwys os yw’r annedd gymwys y cyfeirir ati ym mharagraff 15(1)(a) yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae annedd gymwys yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os yw’r prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd gymwys fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr ar y pryd, mewn trafodiad tir arall (“y trafodiad blaenorol”) a oedd yn cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oedd gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith, unrhyw brif fuddiant yn yr annedd a werthir,

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b), ac

(e)os nad yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi caffael prif fuddiant mewn unrhyw annedd arall gyda’r bwriad iddi fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad oedd y ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, caiff yr annedd a brynir ddod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os oedd y prynwr, ar y dyddiad yr oedd y trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd gymwys fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr, mewn trafodiad tir arall sy’n cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith, yn gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oes gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith, brif fuddiant yn yr annedd a werthir, a

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad ag annedd sy’n dod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, gweler paragraff 23.

Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interim

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a

(b)pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.

(2)Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—

(a)sy’n dod o fewn paragraff 11(2),

(b)pan fo un yn unig o’r anheddau a brynir yn annedd gymwys, ac

(c)nad yw paragraff 15 yn gymwys iddo.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw annedd a brynir yn annedd gymwys at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 13(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—

(a)mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 17(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,

(b)mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(c)mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—

(a)pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 17(2)(b), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 17(2)(a);

(b)pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;

(c)pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.

RHAN 4PRYNWR NAD YW’N UNIGOLYN

Rhagarweiniad

19Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy pan na fo’r prynwr yn unigolyn yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b).

Trafodiad sy’n ymwneud ag annedd

20(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os nad yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr annedd yn £40,000 neu ragor.

(2)Ond nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan is-baragraff (1) os yw, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(a)yr annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)y les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

Trafodiad sy’n ymwneud ag anheddau lluosog

21(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os nad yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”), ac

(c)os yw o leiaf un o’r anheddau a brynir yn annedd y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd a brynir os yw swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli ar sail deg a rhesymol i’r annedd a brynir yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i annedd a brynir—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Nid yw trafodiad o fewn adran 72(9) yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch ac eithrio pan fo Atodlen 13 yn gymwys (gweler yn benodol baragraff 6(6) o’r Atodlen honno).

Dau brynwr neu ragor

22Pan fo dau brynwr neu ragor mewn trafodiad, mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 20 neu 21 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL

Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa

23(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y trafodiad o dan sylw”), oherwydd paragraff 8(4) neu 17(4), yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b).

(2)Ni chaniateir ystyried y trafodiad tir (“y trafodiad dilynol”) a oedd yn bodloni’r amod ym mharagraff 8(4)(b) neu 17(4)(b) at ddibenion paragraff 8(2)(b) neu 17(2)(b) wrth benderfynu pa un a yw unrhyw drafodiad trethadwy arall yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)pan fo’r trafodiad dilynol yn cael effaith ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, neu cyn hynny, a

(b)pan na fo’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

(4)Caiff y prynwr, wrth ddychwelyd y ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw, drin yr annedd a brynir y cyfeirir ati ym mharagraff 8(4) neu 17(4) fel pe bai wedi disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith; ac mewn achos o’r fath mae’r trafodiad o dan sylw i’w drin fel pe na bai erioed wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys os effaith bod y trafodiad o dan sylw yn peidio â bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad hwnnw.

(6)Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr—

(a)o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth felly), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT.

Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin trafodiadau fel trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch

24(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trafodiad trethadwy (“y rhyng-drafodiad”), oherwydd cymhwyso paragraff 9 neu 18, yn cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

(2)Caiff y rhyng-drafodiad ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch at ddibenion y Ddeddf hon o ddiwedd y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5).

(3)Rhaid i’r prynwr yn y rhyng-drafodiad ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.

(4)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y paragraff hwn—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) i ben, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

Priodau a phartneriaid sifil yn prynu ar eu pen eu hunain

25(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—

(a)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)os yw’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad hwnnw, ac

(c)os nad yw priod neu bartner sifil y prynwr yn brynwr yn y trafodiad.

(2)Mae’r trafodiad i’w drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai wedi bod yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch pe bai priod neu bartner sifil y prynwr wedi bod yn brynwr.

(3)Caiff unigolion sy’n briod â’i gilydd, neu’n bartneriaid sifil i’w gilydd, eu trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe baent yn cyd-fyw oni bai—

(a)eu bod wedi gwahanu o dan orchymyn llys sydd ag awdurdodaeth gymwys,

(b)eu bod wedi gwahanu drwy weithred wahanu, neu

(c)eu bod wedi gwahanu mewn gwirionedd mewn amgylchiadau lle mae’r gwahanu yn debygol o fod yn barhaol.

Ad-drefnu eiddo ar ôl ysgariad, diddymiad partneriaeth sifil etc.

26(1)At ddiben penderfynu pa un a yw paragraffau 5 neu 15 yn gymwys i drafodiad trethadwy, nid yw’r prynwr i’w drin fel pe bai ganddo brif fuddiant mewn annedd arall y mae is-baragraff (2) a (3) yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd y mae’r buddiant ynddi yn cael ei ddal gan y prynwr fel tenant ar y cyd o ganlyniad i—

(a)gorchymyn o dan adran 24(1)(b) o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad ag achosion priodasol),

(b)gorchymyn o dan adran 17(1)(a)(ii) o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) (gorchmynion ad-drefnu eiddo ar ôl ysgariad tramor) sy’n cyfateb i orchymyn o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (a),

(c)gorchymyn o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â diddymiad etc. partneriaeth sifil), neu

(d)gorchymyn o dan baragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â diddymiad tramor etc. partneriaeth sifil) sy’n cyfateb i orchymyn o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (c).

(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i annedd sy’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa person y gwneir gorchymyn y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) er ei fudd.

Setliadau ac ymddiriedolaethau noeth

27(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad, ac

(c)os bydd gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd, a

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraffau 2(1) a (2) o Atodlen 8).

(3)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, mae buddiolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth (yn hytrach na’r ymddiriedolwr) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr (neu fel un ohonynt).

(4)Mae paragraffau 3(3) a 4 o Atodlen 8 (trin ymddiriedolwyr fel y prynwr) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).

28(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo person yn fuddiolwr o dan setliad,

(b)pan fo prif fuddiant mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth, ac

(c)pan fo gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys—

(a)pan fo person yn fuddiolwr o dan ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2(1) a 2 o Atodlen 8), a

(b)pan fo cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth.

(3)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai’n dal y buddiant yn yr annedd, a

(b)os yw ymddiriedolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth yn gwaredu’r buddiant, mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai wedi ei waredu.

29(1)Pan fo—

(a)prif destun trafodiad tir ar ffurf buddiant ar wahân i brif fuddiant mewn annedd, a

(b)is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad,

yna, i osgoi unrhyw amheuaeth, effaith paragraff 28 o’r Atodlen hon neu, yn ôl y digwydd, paragraff 3(1) o Atodlen 8, yw fod prif destun y trafodiad i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ar ffurf prif fuddiant mewn annedd.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—

(a)prif fuddiant yn yr annedd yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth noeth ar gyfer buddiolwr (“B”),

(b)holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,

(c)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn B, neu

(ii)mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, a

(d)yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith—

(i)mae’r prif fuddiant yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 3(1) o Atodlen 8, fel pe bai wedi ei freinio yn y prynwr, neu

(ii)mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.

(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad pan fo—

(a)person (“B”) yn fuddiolwr o dan setliad pan fo prif fuddiant yn yr annedd yn ffurfio rhan o eiddo’r ymddiriedolaeth,

(b)gan B, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd,

(c)holl fuddiant neu ran o fuddiant B yn yr annedd yn cael ei waredu,

(d)yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae B yn cael ei drin, yn rhinwedd paragraff 28, fel pe bai’n dal y prif fuddiant yn yr annedd, ac

(e)yn union wedi’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith mae’r prynwr yn cael ei drin, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, fel pe bai’n dal y prif fuddiant.

(4)Wrth bennu a yw is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys i drafodiad, anwybydder paragraffau 30 a 35(5).

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pe bai plentyn person (“P”) (oni bai am y paragraff hwn), oherwydd paragraff 27 neu 28 neu baragraff 3(1) o Atodlen 8 (ymddiriedolaethau noeth), yn cael ei drin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai—

(a)y prynwr mewn perthynas â thrafodiad tir,

(b)yn dal buddiant mewn annedd, neu

(c)wedi gwaredu buddiant mewn annedd.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai neu pe baent y prynwr, yn dal y buddiant neu (yn ôl y digwydd) wedi gwaredu’r buddiant, a

(b)nid yw’r plentyn i’w drin felly.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,

(b)D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy i’r plentyn, ac

(c)D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn, neu yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.

(5)Yn is-baragraff (4), ystyr “dirprwy” yw—

(a)person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu

(b)person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—

(a)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,

(b)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad,

(c)os yw’r prynwr hwnnw yn unigolyn, a

(d)os nad oes gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—

(i)meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu

(ii)incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.

(2)Wrth benderfynu pa un a yw paragraff 20 neu 21 yn gymwys i’r trafodiad—

(a)os y prynwr a grybwyllir yn is-baragraff (1) yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny, a

(b)os nad y prynwr hwnnw yw’r unig brynwr, anwybydder is-baragraff (1)(a) o’r paragraffau hynny wrth ystyried y prynwr hwnnw.

Partneriaethau

32(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy y mae ei destun ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor—

(a)os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn bartner mewn partneriaeth, ond

(b)os nad yw’r prynwr yn ymrwymo i’r trafodiad at ddibenion y bartneriaeth.

(2)At ddibenion penderfynu pa un a yw paragraff 5 neu 15 yn gymwys i’r trafodiad, nid yw unrhyw brif fuddiant mewn unrhyw annedd arall a ddelir gan y bartneriaeth neu ar ei rhan at ddibenion masnach a gyflawnir gan y bartneriaeth i’w drin fel pe bai’n cael ei ddal gan y prynwr neu ar ei ran.

(3)Mae paragraff 4(1)(a) o Atodlen 7 (trin buddiannau trethadwy a ddelir gan bartneriaethau fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (2).

Trefniadau cyllid arall

33(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy sydd y trafodiad cyntaf o dan drefniant cyllid arall yr ymrwymir iddo rhwng person a sefydliad ariannol.

(2)Mae’r person (yn hytrach na’r sefydliad) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad.

(3)Yn y paragraff hwn—

Prif fuddiannau mewn anheddau a gyd-etifeddir

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys, yn rhinwedd etifeddiant—

(a)pan fo person (“P”) yn cael hawl ar y cyd gydag un neu ragor o bersonau eraill i brif fuddiant mewn annedd, a

(b)pan na fo cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50% (gweler is-baragraff (4)).

(2)Nid yw P i’w drin at ddibenion paragraff 5(1)(a) neu 15(1)(b) fel pe bai ganddo’r prif fuddiant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad yr etifeddiant.

(3)Ond os, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw o 3 blynedd, y daw P i fod yr unig berson sydd â hawl lesiannol i’r buddiant cyfan, neu os yw cyfran lesiannol P yn y buddiant yn fwy na 50%, mae P i’w drin, o’r adeg honno, fel pe bai ganddo’r prif fuddiant at ddibenion cymhwyso paragraffau 5(1)(a) a 15(1)(b) (yn ddarostyngedig i unrhyw warediad gan P).

(4)Mae cyfran P yn y buddiant yn fwy na 50%—

(a)os oes gan P hawl lesiannol fel tenant ar y cyd neu gydetifedd i fwy na hanner y buddiant,

(b)os oes gan P a phriod neu bartner sifil P, gyda’i gilydd, hawl lesiannol i fwy na hanner y buddiant fel tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion, neu

(c)os oes gan P a phriod neu bartner sifil P hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid, ac nad oes mwy nag un cyd-denant arall sydd â hawl o’r fath.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(b) ac (c) yn gymwys os nad yw P a phriod neu bartner sifil P yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”) ar y dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato ym mharagraff 5 neu 15 yn cael effaith.

(6)Yn y paragraff hwn ystyr “etifeddiant” yw caffael buddiant mewn hawlogaeth, neu tuag at ddiwallu hawlogaeth, o dan ewyllys person ymadawedig neu mewn perthynas ag ewyllys o’r fath, neu ar ddiewyllysedd person ymadawedig.

(7)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â buddiant a gaffaelir yn dilyn marwolaeth person o ganlyniad i amrywio gwarediad (pa un ai y rhoddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith sy’n ymwneud â diewyllysedd, neu fel arall) eiddo a gynhwysir yn ystad y person hwnnw a wneir o fewn y cyfnod o 2 flynedd ar ôl marwolaeth y person, fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag etifeddiant; ac mewn achos o’r fath mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (2) at ddyddiad yr etifeddiant yn golygu dyddiad caffael y buddiant yn unol â’r amrywiad.

RHAN 6DEHONGLI

Anheddau y tu allan i Gymru

35(1)Yn narpariaethau’r Atodlen hon a bennir yn is-baragraff (4), mae cyfeiriadau at “annedd” yn cynnwys cyfeiriadau at annedd a leolir y tu allan i Gymru.

(2)O ran annedd a leolir yn Lloegr, mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â darpariaethau Deddf Cyllid 2003 (p. 14).

(3)Wrth gymhwyso’r darpariaethau hynny mewn perthynas ag annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr—

(a)mae cyfeiriadau at “prif fuddiant” yn yr annedd yn gyfeiriadau at fuddiant cyfatebol yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,

(b)mae cyfeiriadau at bersonau sydd â hawl lesiannol i fuddiant yn yr annedd fel cyd-denantiaid, tenantiaid ar y cyd neu gydetifeddion yn gyfeiriadau at bersonau sydd â hawl gyfatebol i’r buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu diriogaeth honno,

(c)mae cyfeiriadau at “trafodiad tir” mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at gaffael buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno,

(d)mae cyfeiriadau at “dyddiad cael effaith” trafodiad tir mewn perthynas â’r annedd yn gyfeiriadau at y dyddiad y caffaelir y buddiant yn yr annedd o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth honno, ac

(e)mae cyfeiriadau at “etifeddiant” yn gyfeiriadau at gaffael buddiant o ystad person ymadawedig yn unol â chyfreithiau’r wlad neu’r diriogaeth honno ynghylch etifeddu eiddo.

(4)Darpariaethau’r Atodlen hon y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1), (2) a (3) yw—

(a)paragraff 5(1)(a),

(b)paragraffau 8(2)(b), (c), (d) ac (e) a (4)(b), (c) a (d),

(c)paragraff 9(4),

(d)paragraff 15(1)(b),

(e)paragraffau 17(2)(b), (c), (d) ac (e) a (4)(b), (c) a (d),

(f)paragraffau 18(4),

(g)paragraff 26,

(h)paragraff 28,

(i)paragraff 32(2), a

(j)paragraff 34.

(5)Pan fo gan blentyn person (“P”) fuddiant mewn annedd a leolir mewn gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru—

(a)mae P ac unrhyw briod neu bartner sifil i P i’w trin at ddibenion yr Atodlen hon fel pe bai ganddo neu ganddynt y buddiant hwnnw, a

(b)nid yw’r plentyn i’w drin felly.

(6)Nid yw is-baragraff (5)(a) yn gymwys i briod neu bartner sifil i P os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw (gweler paragraff 25(3) am ystyr hynny).

(7)Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys pan fo—

(a)person (“D”) yn caffael, yn dal neu’n gwaredu prif fuddiant mewn annedd yn enw plentyn neu ar ran y plentyn,

(b)D yn gwneud hynny drwy arfer pwerau a roddir i D fel dirprwy’r plentyn, ac

(c)D yn dal y buddiant hwnnw ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn neu, yn achos gwaredu, wedi ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn.

(8)Yn is-baragraff (7), ystyr “dirprwy” yw—

(a)person a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9), neu

(b)person a benodir i swydd gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Gymru a Lloegr (ac felly mae’r cyfeiriad at fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth gan berson o’r fath yn gyfeiriad at ei ddal ar sail gyfatebol o dan y gyfraith honno).

Yr hyn sy’n cyfrif fel annedd

36(1)Mae’r paragraff hwn yn nodi rheolau ar gyfer penderfynu beth sy’n cyfrif fel annedd at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Mae adeilad neu ran o adeilad yn cyfrif fel annedd—

(a)os yw’n cael ei ddefnyddio fel annedd neu’n addas i’w ddefnyddio fel annedd, neu

(b)os yw yn y broses o gael ei adeiladu neu ei addasu at ddefnydd o’r fath.

(3)Cymerir bod tir sy’n cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, neu dir a fydd yn cael ei feddiannu neu ei fwynhau gydag annedd, fel gardd neu diroedd (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar y tir hwnnw) yn rhan o’r annedd honno.

(4)Cymerir bod tir sy’n bodoli er budd annedd, neu dir a fydd yn bodoli er budd annedd, yn rhan o’r annedd honno.

(5)Cymerir hefyd fod prif destun trafodiad yn fuddiant mewn annedd, neu’n cynnwys buddiant mewn annedd—

(a)os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd, ac

(c)os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn yr adeg y caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.

(6)Yn is-baragraff (5)—

(7)Nid yw adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir at ddiben a bennir yn adran 72(4) neu (5) yn cael ei ddefnyddio fel annedd at ddibenion is-baragraffau (2) na (5).

(8)Pan fo adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddiben a grybwyllir yn is-baragraff (7), rhaid diystyru ei addasrwydd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall at ddibenion is-baragraff (2).

Prif fuddiant i beidio â chynnwys lesoedd penodol

37At ddibenion yr Atodlen hon, nid yw unrhyw gyfnod o flynyddoedd absoliwt neu ystad lesddaliad yn “prif fuddiant” os nad yw cyfnod y les yn fwy na 7 mlynedd ar y dyddiad y’i rhoddir.