Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Dyled fel cydnabyddiaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf⁠—

(a)ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus i’r prynwr neu gan y gwerthwr, neu

(b)ysgwyddo dyled bresennol gan y prynwr,

cymerir mai swm y ddyled a ad-delir, a ollyngir neu a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.

(2)Ond pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf y canlynol ill dau—

(a)ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus gan y gwerthwr, a

(b)ysgwyddo’r ddyled honno gan y prynwr,

tybir mai swm y ddyled a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.

(3)Pan fo—

(a)dyled yn cael ei sicrhau ar destun trafodiad tir yn union cyn y trafodiad ac yn union ar ei ôl, a

(b)hawliau neu rwymedigaethau, mewn perthynas â’r ddyled honno, unrhyw barti i’r trafodiad yn newid o ganlyniad i’r trafodiad neu mewn cysylltiad â’r trafodiad,

yna at ddibenion y paragraff hwn mae’r prynwr yn ysgwyddo’r ddyled honno, ac mae’r ysgwyddo dyled hwnnw yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

(4)Mewn achos y mae is-baragraff (1)(b) neu (2) yn gymwys iddo—

(a)pan fo’r ddyled a ysgwyddir yn ddyled, neu’n cynnwys dyled, a sicrheir ar yr eiddo sy’n ffurfio testun y trafodiad, a

(b)pan oedd, yn union cyn y trafodiad, ddau berson neu ragor yn dal cyfran anrhanedig o’r eiddo hwnnw bob un, neu pan fo dau berson neu ragor o’r fath yn union ar ei ôl,

mae swm y ddyled sicredig a ysgwyddir i’w bennu fel pe bai swm y ddyled honno sy’n ddyledus gan bob un o’r personau hynny, ar adeg benodol, y gyfran ohono sy’n cyfateb i gyfran anrhanedig y person o’r eiddo ar yr adeg honno.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), caiff pob cyd-denant eiddo ei drin fel pe bai’n dal cyfran anrhanedig gyfartal ohono.

(6)Os effaith y paragraff hwn fyddai bod swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn fwy na gwerth marchnadol testun y trafodiad, mae swm y gydnabyddiaeth drethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei gyfyngu i’r gwerth hwnnw.

(7)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol,

(b)ystyr “dyled bresennol”, mewn perthynas â thrafodiad, yw dyled a grëwyd neu a oedd yn codi cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, ac nad oedd wedi ei chreu neu nad oedd yn codi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac

(c)mae cyfeiriadau at swm dyled yn gyfeiriadau at y prif swm sy’n daladwy neu, yn ôl y digwydd, gyfanswm y prif symiau sy’n daladwy, ynghyd â swm unrhyw log cronedig sy’n ddyledus ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith neu cyn hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3