xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CCYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Prisio cydnabyddiaeth anariannolLL+C

7Oni ddarperir fel arall, cymerir mai gwerth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir, ac eithrio—

(a)arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall), neu

(b)dyled fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 8 (dyled fel cydnabyddiaeth),

yw ei werth marchnadol ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3