ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Treth ar werth

2

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad yn cynnwys unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac eithrio treth ar werth sydd i’w chodi yn rhinwedd opsiwn i drethu unrhyw dir o dan Ran 1 o Atodlen 10 i Ddeddf Treth ar Werth 1994 (p. 23) a wneir ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.