Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Prynwyr yn agored i dreth ar enillion cyfalafLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

16(1)Pan fo—

(a)trafodiad tir y mae’r buddiant trethadwy o dan sylw, oddi tano—

(i)yn cael ei gaffael mewn modd ac eithrio bargen a wneir hyd braich, neu

(ii)yn cael ei drin gan adran 18 o Ddeddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (trafodiadau rhwng personau cysylltiedig) fel pe bai wedi ei gaffael yn y modd hwnnw,

a

(b)y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, neu’n talu mewn gwirionedd, unrhyw dreth ar enillion cyfalaf sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad cyfatebol o’r buddiant trethadwy,

nid yw atebolrwydd neu daliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os oes cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (gan ddiystyru’r atebolrwydd neu’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3