ATODLEN 4CYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Darparu gwasanaethau

12

(1)

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf darparu gwasanaethau (ac eithrio gwneud gwaith y mae paragraff 11 yn gymwys iddo), cymerir mai gwerth y gydnabyddiaeth honno yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith er mwyn cael y gwasanaethau hynny.

(2)

Mae’r swm hwnnw yn cynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau.

(3)

Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).