ATODLEN 3TRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT
Amrywio gwarediadau testamentaidd etc.
6
(1)
Pan fydd person yn marw, mae trafodiad sy’n amrywio gwarediad eiddo (pa un a roddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith mewn perthynas â diewyllysedd neu fel arall) yr oedd yr ymadawedig yn gymwys i’w waredu yn esempt rhag codi treth arno os bodlonir yr amodau a ganlyn.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod y trafodiad yn cael ei gyflawni o fewn y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth person, a
(b)
na roddir unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na chyfwerth ariannol ar ei gyfer ac eithrio amrywio gwarediad arall o’r fath.
(3)
Pan na fo’r amod yn is-baragraff (2)(b) wedi ei gyflawni, pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(3) o Atodlen 4.
(4)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw gweinyddiad yr ystad wedi ei gwblhau ai peidio neu pa un a yw’r eiddo wedi ei ddosbarthu yn unol â’r gwarediadau gwreiddiol ai peidio.