Valid from 18/10/2017
Valid from 01/04/2018
2Mae trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno pan fo’r prynwr oddi tano yn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;
(b)un o Weinidogion y Goron;
(c)Gweinidogion yr Alban;
(d)adran yng Ngogledd Iwerddon;
(e)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(f)Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Arglwyddi;
(g)Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Cyffredin;
(h)Corff Corfforaethol Senedd yr Alban;
(i)Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)