This section has no associated Explanatory Notes
69Yn adran 191 (rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani” rhodder “Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,”, a
(ii)ar ôl “i berson”, mewnosoder “ddychwelyd ffurflen dreth neu”;
(b)yn lle is-adran (2), mewnosoder—
“(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—
(a)bod ar ba bynnag ffurf,
(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,
(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a
(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,
a bennir gan ACC.”;
(c)yn is-adran (3), yn lle “y Ddeddf hon neu oddi tani” rhodder “Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt”.