Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

This section has no associated Explanatory Notes

58Yn lle adrannau 157 a 158 rhodder—

157Llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—

(i)y dreth sydd i’w chodi, neu

(ii)os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;

(b)sy’n daladwy—

(i)o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;

(ii)o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;

(iii)yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu

(c)sy’n daladwy yn unol ag—

(i)dyfarniad o dan adran 52, neu

(ii)asesiad o dan adran 54 neu 55,

a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

(2)Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

(4)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.

157ALlog taliadau hwyr ar gosbau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o gosb y mae’n ofynnol ei dalu o dan Ran 5 o’r Ddeddf hon.

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod canlynol, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.

158Llog taliadau hwyr: atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 157 a 157A.

(2)Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

(3)Caiff dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(4)Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm, yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.

(5)Mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).