ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

5

Yn adran 38 (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel)—

(a)

yn is-adran (1)—

(i)

ym mharagraff (a), yn lle’r geiriau o “ddychwelyd” i’r diwedd rhodder “ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,”;

(ii)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(b)

storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.”;

(b)

yn is-adran (2)—

(i)

yn lle “diwrnod”, yn y tri lle y mae’n ymddangos, rhodder “dyddiad”;

(ii)

ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “pan fydd” i’r diwedd rhodder “fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).”;

(c)

yn lle is-adran (3) rhodder—

“(3)

Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)

y dyddiad ffeilio, a

(b)

os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)

Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.”;

(d)

yn is-adran (4)—

(i)

yn lle “diwrnodau” rhodder “dyddiadau”;

(ii)

yn lle “(3)(b)” rhodder “(3A)”;

(e)

yn lle is-adran (5) rhodder—

“(5)

Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).”;

(f)

hepgorer is-adrannau (6) i (8);

(g)

mae pennawd yr adran yn newid i “Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth”.