xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5LL+CYn adran 38 (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle’r geiriau o “ddychwelyd” i’r diwedd rhodder “ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,”;
(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.”;
(b)yn is-adran (2)—
(i)yn lle “diwrnod”, yn y tri lle y mae’n ymddangos, rhodder “dyddiad”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “pan fydd” i’r diwedd rhodder “fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).”;
(c)yn lle is-adran (3) rhodder—
“(3)Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—
(a)y dyddiad ffeilio, a
(b)os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.
(3A)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.”;
(d)yn is-adran (4)—
(i)yn lle “diwrnodau” rhodder “dyddiadau”;
(ii)yn lle “(3)(b)” rhodder “(3A)”;
(e)yn lle is-adran (5) rhodder—
“(5)Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).”;
(f)hepgorer is-adrannau (6) i (8);
(g)mae pennawd yr adran yn newid i “Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 23 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 23 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3