xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 18/10/2017

ATODLEN 23LL+CDIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

Valid from 01/04/2018

14LL+CAr ôl adran 45 mewnosoder—

45ATrethdalwr yn diwygio ffurflen dreth pan fydd ymholiad yn mynd rhagddo

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth yn ei diwygio yn ystod y cyfnod pan fydd ymholiad i’r ffurflen dreth yn mynd rhagddo.

(2)At ddibenion adran 44 (cwmpas ymholiad), mae’r diwygiad i’w drin fel rhywbeth a gynhwysir ar y ffurflen dreth.

(3)Mae’r diwygiad yn cael effaith ar y diwrnod y mae’r ymholiad yn cael ei gwblhau oni bai bod ACC yn datgan yn yr hysbysiad cau a ddyroddir o dan adran 50—

(a)bod y diwygiad wedi ei ystyried wrth lunio’r diwygiadau sy’n ofynnol i roi effaith i gasgliadau ACC, neu

(b)mai casgliad ACC yw bod y diwygiad yn anghywir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 23 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)