ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
12
Yn adran 43 (hysbysiad ymholiad)—
(a)
yn is-adran (1), yn lle’r geiriau o “o 12 mis” i’r diwedd rhodder “ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).”;
(b)
“(1A)
Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
(1B)
Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—
(a)
os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,
(b)
ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,
(c)
os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a
(d)
os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).”;
(c)
yn is-adran (2), ar y dechrau, mewnosoder “At ddibenion is-adran (1A),”;
(d)
“(a)
o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu
(b)
yn rhinwedd is-adran (1B)”;
(e)
“(4)
Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.”