ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016
11
Yn adran 42 (ACC yn cywiro ffurflen dreth)—
a
ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
4A
Os yw swm neu swm ychwanegol o dreth ddatganoledig yn daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir o dan yr adran hon, rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu’r swm, neu’r swm ychwanegol, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad.
b
yn is-adran (5)(a), ar ôl “ffurflen dreth” mewnosoder “o dan adran 41”.