xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7(1)Mae trafodiad tir y mae Gweinidogion Cymru yn barti iddo, neu y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn barti iddo, wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os yw’n ymwneud â phriffordd neu briffordd arfaethedig sy’n gefnffordd neu a fydd yn gefnffordd, a
(b)oni bai am y paragraff hwn, pe byddai treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad fel traul yr eir iddo gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).
(2)Yn y paragraff hwn—
mae i “cefnffordd” yr ystyr a roddir i “trunk road” gan adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66);
mae i “priffordd” yr ystyr a roddir i “highway” gan adran 328 o’r Ddeddf honno;
mae i “priffordd arfaethedig” yr ystyr a roddir i “proposed highway” gan adran 329(1) o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 22 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 22 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3