ATODLEN 22RHYDDHADAU AMRYWIOL
I1I24Rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol
1
Mae paragraff 3 yn cael effaith mewn perthynas â phencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig fel pe bai—
a
y pencadlys yn lu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig, a
b
aelodau’r llu arfog hwnnw yn cynnwys y personau hynny sy’n gwasanaethu yn y pencadlys, neu sy’n gysylltiedig ag ef, sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “dynodedig” yw dynodedig at y diben o dan sylw drwy neu o dan unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wneir i roi effaith i gytundeb rhyngwladol.