ATODLEN 21RHYDDHAD PRYNU GORFODOL A RHYDDHAD RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO
Rhyddhad am gydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio
2
(1)
Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gynllunio neu addasiad i rwymedigaeth gynllunio wedi ei ryddhau rhag treth os yw—
(a)
y rhwymedigaeth gynllunio neu’r addasiad yn orfodadwy yn erbyn y gwerthwr,
(b)
y prynwr yn gorff cyhoeddus, ac
(c)
y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad yr ymrwymwyd i’r rhwymedigaeth gynllunio neu y’i haddaswyd.
(2)
Yn y paragraff hwn—
ystyr “addasiad” (“modification”) i rwymedigaeth gynllunio yw addasiad a grybwyllir yn adran 106A(1) (addasu a chyflawni rhwymedigaethau cynllunio) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);
ystyr “rhwymedigaeth gynllunio” yw rhwymedigaeth gynllunio o fewn yr ystyr a roddir i “planning obligation” gan adran 106 o’r Ddeddf honno yr ymrwymir iddi yn unol ag is-adran (9) o’r adran honno (materion sy’n ymwneud â ffurf a gweithrediad yr offeryn sy’n rhoi effaith i’r rhwymedigaeth gynllunio).
(3)
Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn—
(a)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);
(b)
Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
(c)
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno;
(d)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;
(e)
person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.