ATODLEN 20RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU GAN GYRFF CYHOEDDUS A CHYRFF IECHYD
Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff penodol y gwasanaeth iechyd
2
Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn unrhyw un o’r canlynol—
(a)
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
(b)
Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o’r Ddeddf honno;
(c)
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;
(d)
person a bennwyd at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.