Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

RHAN 3LL+CTRAFODIADAU CYN-GWBLHAU SY’N DROSGLWYDDIADAU ANNIBYNNOL

Trafodiadau cyn-gwblhau sy’n drosglwyddiadau annibynnolLL+C

12Yn yr Atodlen hon cyfeirir at drafodiad cyn-gwblhau nad yw’n aseinio hawliau fel “trosglwyddiad annibynnol”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddiadau annibynnol: cydnabyddiaeth a chyflawni’n sylweddolLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad cyn-gwblhau yn drosglwyddiad annibynnol.

(2)Os yw’r trosglwyddai yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol, ystyrir bod y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad sy’n rhoi effaith i’r caffaeliad hwnnw yn cynnwys y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trosglwyddiad annibynnol (oni fyddai’n ei gynnwys fel arall).

(3)Mae cyfeiriadau yn is-baragraff (2) at gaffaeliad yn cynnwys caffaeliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi digwydd yn rhinwedd adran 10(4) (ac mae’r cyfeiriad at y trafodiad sy’n rhoi effaith i’r caffaeliad hwnnw i’w ddarllen yn unol â hynny).

(4)Mae cam a gymerir gan y trosglwyddai (neu aseinai’r trosglwyddai) a fyddai, pe bai’r prynwr gwreiddiol yn cymryd y cam hwnnw, yn golygu (at ddibenion adran 14(1)) cymryd meddiant o holl destun y contract gwreiddiol neu’r holl destun i raddau helaeth, i’w drin fel cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol.

(5)Os yw trafodiad sy’n drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas â chontract hefyd yn drosglwyddiad annibynnol mewn perthynas â chontract arall (pan fu trosglwyddiadau annibynnol olynol, yn benodol), ystyrir mai pob un o’r contractau hynny yw’r “contract gwreiddiol” at ddibenion cymhwyso is-baragraff (4) mewn achosion ar wahân.

(6)Yn is-baragraff (4)—

(a)mae’r cyfeiriad at y trosglwyddai yn cynnwys person sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, a

(b)mae’r cyfeiriad at aseinai’r trosglwyddai—

(i)yn gyfeiriad at berson sydd, o ganlyniad i drafodiad sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â’r trosglwyddiad annibynnol, â’r hawl i alw am drosglwyddo holl destun y trosglwyddiad annibynnol neu ran ohono, a

(ii)yn cynnwys person sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfeiriadau at “y gwerthwr” mewn achosion sy’n ymwneud â throsglwyddiadau annibynnolLL+C

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)y trafodiad cyn-gwblhau yn drosglwyddiad annibynnol a’r trosglwyddai yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol fel y crybwyllir ym mharagraff 13(2) (o’i ddarllen ar y cyd â pharagraff 13(3)), neu

(b)y trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau a naill ai—

(i)testun y contract gwreiddiol yn cael ei drosglwyddo i’r trosglwyddai, neu

(ii)y contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai,

ond nid yw paragraff 11(1) (cyfeiriadau at y gwerthwr pan fo’r trosglwyddai yn aseinai o dan aseinio hawliau) yn gymwys oherwydd bod y contract gwreiddiol yn drosglwyddiad annibynnol (gweler paragraff 11(2)).

(2)Y rheol gyffredinol, mewn perthynas â’r trafodiad tir perthnasol, yw bod cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y gwerthwr o dan y trafodiad priodol cyntaf (ond gweler is-baragraff (3)).

(3)Mewn perthynas â’r trafodiad tir perthnasol, mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn y darpariaethau penodedig (gweler is-baragraff (4)) i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—

(a)y gwerthwr yn y trafodiad priodol cyntaf,

(b)y trosglwyddwr o dan y trafodiad terfynol, ac

(c)y trosglwyddwr o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n ymwneud â’r trafodiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â hwy.

(4)Y darpariaethau penodedig yw—

(a)paragraff 8(1)(a) o Atodlen 4 (dyled fel cydnabyddiaeth);

(b)paragraff 11(2)(c) o’r Atodlen honno (cyflawni gwaith);

(c)paragraff 14 o’r Atodlen honno (indemniad a roddir gan brynwr);

(d)paragraff 1(1) a (2) o Atodlen 20 (trosglwyddiadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);

(e)paragraff 2(1)(a) o Atodlen 21 (cydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio: amodau ar gyfer rhyddhad).

(5)Wrth bennu o dan adran 8(1) pa un a yw trafodiad tir perthnasol a thrafodiad arall yn gysylltiol ai peidio, gellir cymryd mai unrhyw un neu ragor o’r canlynol yw’r gwerthwr yn y trafodiad tir perthnasol—

(a)y gwerthwr yn y trafodiad priodol cyntaf,

(b)y trosglwyddwr o dan y trafodiad terfynol, ac

(c)y trosglwyddwr o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n ymwneud â’r trafodiadau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â hwy.

(6)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y trafodiad tir perthnasol” yw—

(i)y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), neu

(ii)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(b), y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo drwy drosglwyddo testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai neu gyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai;

(b)ystyr “y trafodiad terfynol” yw—

(i)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(a), y trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael testun y trosglwyddiad annibynnol gan y trosglwyddai;

(ii)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (1)(b), y trafodiad sy’n rhoi effaith i gaffael testun yr aseinio hawliau gan y trosglwyddai (pa un ai drwy drosglwyddo testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, cyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol gan y trosglwyddai neu fel arall);

(c)ystyr “y trafodiad priodol cyntaf” yw’r contract gwreiddiol, oni bai bod is-baragraff (7) yn gymwys.

(7)Wrth gymhwyso’r paragraff hwn i achos pan na fo’r contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni ar yr un pryd â chyflawni’r trafodiad terfynol nac mewn cysylltiad â hynny, ystyr “y trafodiad priodol cyntaf” yw trafodiad sy’n drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.

(8)Yr amodau yw bod y trafodiad cyn-gwblhau—

(a)yn cael ei gyflawni ar yr adeg y cyflawnir y trafodiad terfynol ac (os nad y trafodiad terfynol hwnnw ydyw) y’i cyflawnir mewn cysylltiad â chyflawni’r trafodiad terfynol,

(b)yn drafodiad y mae hawl y trosglwyddai i alw am drosglwyddo testun y trafodiad terfynol yn dibynnu arno, ac

(c)yn drafodiad nas rhagflaenir gan drafodiad cyn-gwblhau arall sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (a) a (b).

(9)At ddibenion is-baragraffau (7) ac (8)—

(a)ystyrir bod contract ar gyfer trafodiad tir wedi “ei gyflawni” pan gaiff ei gyflawni’n sylweddol neu ei gwblhau (pa un bynnag sydd gynharaf);

(b)ystyrir bod trosglwyddiad annibynnol ac eithrio contract wedi “ei gyflawni” pan fydd y trosglwyddai o dan y trosglwyddiad annibynnol hwnnw (neu aseinai’r trosglwyddai hwnnw, fel y’i diffinnir ym mharagraff 13(6)(b)) yn caffael testun y trosglwyddiad annibynnol hwnnw.

(10)Pan fo’r trafodiad terfynol yn drafodiad cyn-gwblhau mewn perthynas â phob un o ddau gontract neu ragor fel y rhai a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(a) sydd gyda’i gilydd yn ffurfio cyfres o gontractau o’r fath (gyda phob contract â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r holl gontractau eraill), mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at y “contract gwreiddiol” i’w darllen fel cyfeiriadau at y contract cyntaf yn y gyfres honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3