Aseinio hawliau: trin y trosglwyddwr fel pe bai’n gwneud caffaeliad ar wahânLL+C
8(1)Pan fo paragraff 7(4) i (8) yn gymwys (aseinio hawliau: cwblhau’r contract gwreiddiol neu ei gyflawni’n sylweddol) mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai—
(a)y dyddiad y mae’r trafodiad tir a grybwyllir ym mharagraff 7(4) (“trafodiad tir y trosglwyddai”) yn cael effaith yw’r dyddiad y mae trafodiad tir arall (“trafodiad tir tybiannol”) yn cael effaith hefyd, a
(b)y prynwr gwreiddiol yw’r prynwr yn y trafodiad tir tybiannol hwnnw.
(2)Cyfeirir at y trafodiad tir tybiannol yn y paragraff hwn fel trafodiad y mae “cyswllt” rhyngddo â’r aseinio hawliau y mae’r prynwr gwreiddiol yn drosglwyddwr oddi tano.
(3)Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys a’r aseinio hawliau a grybwyllir ym mharagraff 7(1) (“yr aseinio hawliau a weithredwyd”) yn cael ei ragflaenu gan un neu ragor o achosion perthynol o aseinio hawliau, yna at ddibenion y Ddeddf hon ystyrir bod, ar gyfer pob achos o aseinio hawliau (ac eithrio’r cyntaf) yn y gadwyn a ffurfir gan yr aseinio hawliau a weithredwyd a’r achosion blaenorol hynny o aseinio hawliau, drafodiad tir tybiannol ychwanegol—
(a)sy’n cael effaith ar y dyddiad y mae trafodiad tir y trosglwyddai yn cael effaith, a
(b)y mae’r trosglwyddwr o dan yr aseinio hawliau hwnnw yn brynwr oddi tano.
(4)Yn is-baragraff (3), ystyr “achosion perthynol o aseinio hawliau” yw trafodiad sy’n achos o aseinio hawliau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r aseinio hawliau a weithredwyd.
(5)Cyfeirir at y trafodiad tir tybiannol ychwanegol yn y paragraff hwn fel trafodiad y mae “cyswllt” rhyngddo â’r aseinio hawliau.
(6)At ddiben pennu’r gydnabyddiaeth drethadwy—
(a)ar gyfer y trafodiad tir tybiannol, mae Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai paragraff 1 o’r Atodlen honno yn darparu mai’r gydnabyddiaeth drethadwy (ac eithrio fel y darperir fel arall) yw swm A a B;
(b)ar gyfer unrhyw drafodiad tir tybiannol ychwanegol, mae’r Atodlen honno yn cael effaith fel pe bai paragraff 1 ohoni yn darparu mai’r gydnabyddiaeth drethadwy (ac eithrio fel y darperir fel arall) yw swm A, B ac C.
(7)A yw cyfanswm unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir (pa un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol—
(a)y trosglwyddai o dan yr aseinio hawliau y mae cyswllt rhyngddo â’r trafodiad tir tybiannol neu’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol;
(b)pan fo’r aseinio hawliau yn un mewn cadwyn o drafodiadau olynol sy’n drafodiadau cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol (y mae o leiaf ran o’u testun yn gyffredin rhyngddynt), y trosglwyddai o dan unrhyw drafodiad cyn-gwblhau dilynol yn y gadwyn honno;
(c)person sy’n gysylltiedig â pherson sydd o fewn paragraff (a) neu (b).
(8)B yw cyfanswm unrhyw gydnabyddiaeth arall mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir yn gydnabyddiaeth o dan y contract gwreiddiol (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan—
(a)y prynwr (o dan y trafodiad tir tybiannol neu’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol), neu
(b)person sy’n gysylltiedig â’r prynwr.
(9)C yw swm unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir ar gyfer yr aseinio hawliau blaenorol gan—
(a)y prynwr (o dan y trafodiad tir tybiannol ychwanegol), neu
(b)person sy’n gysylltiedig â’r prynwr.
(10)Yn is-baragraff (9), ystyr “yr aseinio hawliau blaenorol” yw’r aseinio hawliau y daeth y prynwr i fod â’r hawl, o ganlyniad iddo, i alw am drosglwyddo testun yr aseinio hawliau (fel y daeth i fod) y mae cyswllt rhyngddo â’r trafodiad tir tybiannol ychwanegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3