Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Aseinio hawliau: cymhwyso rheolau ynghylch cwblhau a chydnabyddiaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau.

(2)Os trosglwyddir testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, cymerir mai’r trosglwyddiad yw cwblhau’r contract gwreiddiol (er gwaethaf adran 10 ac is-adran (10)(a) o’r adran honno yn benodol).

(3)Mae is-baragraffau (4) i (8) yn gymwys—

(a)os trosglwyddir testun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai, neu

(b)os yw’r contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai.

(4)Cymerir mai’r trosglwyddai yw’r prynwr yn y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo fel a grybwyllir yn adran 10(3), neu y caiff ei drin fel bod effaith wedi ei rhoi iddo o dan adran 10(4).

(5)At ddiben pennu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir hwnnw, cymerir bod y trafodiad tir yn rhoi effaith i gontract y mae’r gydnabyddiaeth oddi tano y gydnabyddiaeth a dalwyd neu a ddarparwyd gan y trosglwyddai neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai—

(a)ar gyfer testun y contract gwreiddiol, a

(b)ar gyfer aseinio’r hawliau.

(6)Mae paragraff 1 o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy: arian neu gyfwerth ariannol) yn cael effaith yn unol â hynny ond yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8) o’r paragraff hwn.

(7)Nid yw’r paragraff hwn yn caniatáu i unrhyw swm o gydnabyddiaeth a roddir gan berson gael ei gyfrif ddwywaith wrth bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy.

(8)Mewn unrhyw achos pan fo cysylltiad perthnasol rhwng y partïon fel a grybwyllir ym mharagraff 15(2) (rheol isafswm y gydnabyddiaeth), cyfrifir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (4) o’r paragraff hwn (ni waeth pa un a cymerir mai’r gydnabyddiaeth yw’r swm ym mharagraff (a), (b) neu (c) o baragraff 15(2)) fel pe bai’r geiriau “neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr” ym mharagraff 1 o Atodlen 4 wedi eu hepgor.

(9)Cymerir bod y contract gwreiddiol “wedi ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai” pan fo trafodiad tir yn cael ei drin fel pe bai effaith wedi ei rhoi iddo o dan adran 10(4) oherwydd—

(a)bod y trosglwyddai o dan yr aseinio hawliau, neu berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, yn cymryd meddiant o holl destun y contract gwreiddiol, neu’r holl destun hwnnw i raddau helaeth,

(b)bod cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth wedi ei thalu neu ei darparu gan y trosglwyddai neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, neu

(c)bod cydnabyddiaeth a delir neu a ddarperir gan y trosglwyddai, neu berson sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddai, wrth ei chymryd gyda’r gydnabyddiaeth a delir neu a ddarperir gan berson arall, yn dod i gyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth.

(10)Mae’r cyfeiriadau yn is-baragraff (9) at feddiant ac at dalu neu ddarparu cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth i’w darllen yn unol ag is-adrannau (2) a (3) o adran 14 (ystyr cyflawni’n sylweddol).

(11)Yn is-baragraff (9), ystyr “y gydnabyddiaeth”—

(a)mewn perthynas â’r trafodiad tir, yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael testun y trafodiad tir (fel yr ystyrir iddi fod);

(b)mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael testun y contract hwnnw gan y trosglwyddai;

(c)mewn perthynas â’r aseinio hawliau, yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer caffael gan y trosglwyddai yr hawliau y mae’r contract hwnnw yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3