ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 1RHAGARWEINIAD A CHYSYNIADAU ALLWEDDOL
I1I24Termau allweddol eraill
1
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at ran o destun y contract gwreiddiol—
a
yn gyfeiriadau at fuddiant trethadwy sydd yr un fath â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato ym mharagraff 2(1)(a) ac eithrio ei fod yn ymwneud â rhan o’r tir o dan sylw yn unig, a
b
hefyd yn cynnwys, i’r graddau y bo’n briodol, fuddiannau neu hawliau sy’n perthyn i’r buddiant trethadwy neu’n ymwneud ag ef.
2
Yn yr Atodlen hon, ystyr “y trosglwyddwr”, mewn perthynas â thrafodiad cyn-gwblhau, yw parti i’r trafodiad cyn-gwblhau yr oedd ganddo, yn union cyn i’r trafodiad cyn-gwblhau ddigwydd, yr hawl i alw am drosglwyddo testun y trafodiad cyn-gwblhau (fel y daeth i fod).
3
Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at “testun” trafodiad cyn-gwblhau—
a
yn gyfeiriadau at y buddiant trethadwy y mae gan y trosglwyddai yr hawl i alw am ei drosglwyddo o ganlyniad i’r trafodiad cyn-gwblhau, a
b
hefyd yn cynnwys, i’r graddau y bo’n briodol, fuddiannau neu hawliau sy’n perthyn i’r buddiant trethadwy neu’n ymwneud ag ef.