ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 5RHYDDHADAU
Rhyddhad i’r prynwr gwreiddiol: iswerthiannau cymwys
19
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)
os yw’r trafodiad cyn-gwblhau yn is-werthiant cymwys (gweler is-baragraff (6)),
(b)
pe bai’r prynwr gwreiddiol, oni bai am y paragraff hwn, yn atebol am dalu treth mewn cysylltiad â’r trafodiad tir y rhoddir effaith iddo drwy gwblhau’r contract gwreiddiol neu y caiff ei drin fel bod effaith wedi ei rhoi iddo drwy gyflawni’r contract gwreiddiol yn sylweddol,
(c)
os cyflawnir yr is-werthiant cymwys ar yr un pryd â chyflawni’r contract gwreiddiol, ac mewn cysylltiad â hynny, a
(d)
os hawlir rhyddhad mewn cysylltiad â’r trafodiad tir a grybwyllir ym mharagraff (b).
(2)
Os testun yr is-werthiant cymwys yw holl destun y contract gwreiddiol, mae’r prynwr gwreiddiol wedi ei ryddhau rhag treth mewn cysylltiad â’r trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b).
(3)
Os yw testun yr is-werthiant cymwys yn rhan o destun y contract gwreiddiol, cymerir mai swm y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) yw—
Ffigwr 2
pan fo—
CG yw’r swm y byddai’r gydnabyddiaeth oni bai am yr is-baragraff hwn, a
IC yw hynny o CG sydd i’w briodoli i destun yr is-werthiant cymwys,
a chaniateir gostwng CG fwy nag unwaith os oes mwy nag un is-werthiant cymwys.
(4)
Ond nid oes unrhyw ryddhad ar gael o dan y paragraff hwn—
(a)
os oedd y contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol pan ymrwymwyd i’r is-werthiant cymwys, neu
(b)
os yw’r trafodiad y rhoddir effaith iddo, neu y caiff ei drin fel bod effaith wedi ei rhoi iddo drwy gyflawni’r is-werthiant cymwys wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall).
(5)
At ddibenion y paragraff hwn, cymerir bod contract ar gyfer trafodiad tir wedi “ei gyflawni” pan fydd wedi ei gyflawni’n sylweddol neu wedi ei gwblhau (pa un bynnag sydd gynharaf).
(6)
Mae trafodiad cyn-gwblhau yn “is-werthiant cymwys” os yw’n gontract y mae’r prynwr gwreiddiol yn contractio oddi tano i werthu holl destun neu ran o destun y contract gwreiddiol i’r trosglwyddai.
(7)
Os yw trafodiad yn is-werthiant cymwys mewn perthynas â mwy nag un contract fel a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(a), mae’r paragraff hwn yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob contract gwreiddiol o’r fath at ddiben pennu pa ryddhad, os o gwbl, a all fod ar gael mewn cysylltiad â’r trafodiad tir o dan sylw.