ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 5RHYDDHADAU
Rhyddhad i’r trosglwyddwr: aseinio hawliau
18
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)
pe bai person, oni bai am y paragraff hwn, yn atebol am dalu treth mewn cysylltiad â thrafodiad tir tybiannol y tybir ei fod wedi digwydd o dan baragraff 8(1) neu drafodiad tir tybiannol ychwanegol y tybir ei fod wedi digwydd o dan baragraff 8(3), a
(b)
os nad oedd y contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol pan ymrwymwyd i’r aseinio hawliau a grybwyllir ym mharagraff 7(1).
(2)
Os yw’r prynwr mewn cysylltiad â’r trafodiad tir tybiannol, neu drafodiad tir tybiannol ychwanegol, yn hawlio rhyddhad o dan y paragraff hwn, mae’r prynwr wedi ei ryddhau rhag treth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.
(3)
Ond nid oes unrhyw ryddhad ar gael o dan y paragraff hwn os yw’r trafodiad tir a grybwyllir ym mharagraff 7(4) wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall).