ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 4RHEOL ISAFSWM Y GYDNABYDDIAETH
I1I217Yr ail isafswm
1
Yr “ail isafswm” yw cyfanswm symiau net y gydnabyddiaeth a roddir gan y partïon perthnasol.
2
Swm net y gydnabyddiaeth a roddir gan unrhyw barti perthnasol yw—
Ffigwr 1
pan fo—
CP yn gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir gan y parti ar gyfer caffael y buddiant trethadwy neu fel cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad cyn-gwblhau;
CPP yn gyfanswm unrhyw symiau o gydnabyddiaeth a roddir i’r parti gan barti perthnasol arall (neu bartïon perthnasol eraill) yn gydnabyddiaeth ar gyfer caffael y buddiant trethadwy neu fel cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad cyn-gwblhau,
ac os yw CPP yn fwy na CP yna cymerir mai swm net y gydnabyddiaeth a roddir gan y parti perthnasol yw sero.
3
Y partïon perthnasol yw—
a
y prynwr gwreiddiol, a
b
y trosglwyddai,
oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys.
4
Os yw’r trafodiad cyn-gwblhau a grybwyllir ym mharagraff 7(1) neu 13(1) (“y trafodiad a weithredwyd”) yn un mewn cadwyn o drafodiadau olynol (oll ag o leiaf ran o’u testun yn gyffredin) sy’n drafodiadau cyn-gwblhau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol, dim ond y canlynol sy’n bartïon perthnasol—
a
y trosglwyddwr a’r trosglwyddai mewn perthynas â’r trafodiad a weithredwyd;
b
trosglwyddwr mewn perthynas â thrafodiad blaenorol, os yw’r trosglwyddwr hwnnw yn gysylltiedig â’r trosglwyddai o dan y trafodiad a weithredwyd, neu heb fod yn gweithredu hyd braich iddo;
c
y trosglwyddai mewn trafodiad cyn-gwblhau pan fo’r trosglwyddwr yn barti perthnasol (boed yn rhinwedd y paragraff (c) hwn neu fel arall),
ac yn yr is-baragraff hwn ac is-baragraff (6) ystyr “trafodiad blaenorol” yw trafodiad cyn-gwblhau sy’n rhagflaenu’r trafodiad a weithredwyd yn y gadwyn.
5
At ddibenion is-baragraff (2)—
a
caiff symiau a roddir gan berson sy’n gysylltiedig â pharti perthnasol eu trin fel pe baent wedi eu rhoi gan y parti perthnasol;
b
caiff symiau a roddir i berson sy’n gysylltiedig â pharti perthnasol eu trin fel pe baent wedi eu rhoi i’r parti perthnasol,
ond nid yw person sy’n barti perthnasol i’w drin, at ddibenion y paragraff hwn, fel pe bai’n gysylltiedig â pharti perthnasol arall (hyd yn oed pe bai hynny’n wir oni bai am y paragraff hwn).
6
Os nad testun y trafodiad a weithredwyd yw holl destun y contract gwreiddiol—
a
mae’r symiau yr ystyrir at ddibenion is-baragraff (2) eu bod wedi eu rhoi “ar gyfer caffael y buddiant trethadwy” i’w pennu ar sail deg a rhesymol, a
b
dim ond hynny o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad blaenorol ag sydd i’w briodoli, ar sail deg a rhesymol, i destun y trafodiad a weithredwyd sydd i’w ystyried o dan is-baragraff (2).