ATODLEN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU
RHAN 2TRAFODIADAU CYN-GWBLHAU SY’N ASEINIO HAWLIAU
11Aseinio hawliau: cyfeiriadau at “y gwerthwr”
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
y trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau, a
b
naill ai testun y contract gwreiddiol yn cael ei drosglwyddo i’r trosglwyddai neu’r contract gwreiddiol yn cael ei gyflawni’n sylweddol gan y trosglwyddai.
2
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r contract gwreiddiol ei hun yn drosglwyddiad annibynnol (gweler Rhan 3 o’r Atodlen hon ynghylch trin achosion o’r fath).
3
Y rheol gyffredinol, mewn perthynas â thrafodiad tir perthnasol, yw bod cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y gwerthwr o dan y contract gwreiddiol (ond gweler is-baragraffau (4) a (5)).
4
Mewn achosion pan fo’r contract gwreiddiol wedi ei gyflawni’n sylweddol cyn i’r trosglwyddai gael yr hawl i alw am drosglwyddo holl destun y contract gwreiddiol neu ran ohono, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y gwerthwr i’w darllen fel cyfeiriadau at y person a oedd y prynwr o dan y contract gwreiddiol pan gyflawnwyd ef yn sylweddol.
5
Mewn perthynas â thrafodiad tir perthnasol, mae cyfeiriadau at y gwerthwr yn unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y gwerthwr o dan y contract gwreiddiol a’r trosglwyddwr o dan unrhyw achos perthnasol o aseinio hawliau—
a
paragraff 8(1)(a) o Atodlen 4 (dyled fel cydnabyddiaeth);
b
paragraff 11(2)(c) o’r Atodlen honno (cyflawni gwaith);
c
paragraff 14 o’r Atodlen honno (indemniad a roddir gan y prynwr);
d
paragraff 1(1) a (2) o Atodlen 20 (trosglwyddiadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);
e
paragraff 2(1)(a) o Atodlen 21 (cydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio: amodau ar gyfer rhyddhad).
6
Mae’r canlynol yn “trafodiadau tir perthnasol”—
a
y trafodiad tir y rhoddir effaith iddo gan y trosglwyddiad a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) neu a gaiff ei drin fel bod y cyflawni sylweddol a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw yn rhoi effaith iddo;
b
y trafodiad tir tybiannol a grybwyllir ym mharagraff 8(1) ac unrhyw drafodiad tir tybiannol ychwanegol o dan baragraff 8(3).
7
Wrth bennu o dan adran 8(1) pa un yw trafodiad tir perthnasol fel a grybwyllir yn is-baragraff (6)(a) a thrafodiad arall yn gysylltiol ai peidio, gellir cymryd mai unrhyw un o’r canlynol yw’r gwerthwr yn y trafodiad tir perthnasol—
a
y gwerthwr (a bennir yn unol ag is-baragraff (3)), neu
b
y trosglwyddwr o dan unrhyw achos perthnasol o aseinio hawliau.
8
Mae’r canlynol yn “achos perthnasol o aseinio hawliau” mewn perthynas â thrafodiad tir perthnasol—
a
yr achos o aseinio hawliau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a);
b
unrhyw drafodiad arall sy’n aseinio hawliau mewn perthynas â’r contract gwreiddiol ac sydd â rhywfaint o destun yn gyffredin â’r achos o aseinio hawliau a grybwyllir ym mharagraff (a).