xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 19LL+CRHYDDHAD I GWMNÏAU BUDDSODDI PENAGORED

Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagoredLL+C

2(1)Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig (“yr ymddiriedolaeth darged”) i gwmni buddsoddi penagored (“y cwmni caffael”) wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored, ac o ganlyniad i hynny, daw’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn rhan o eiddo’r cwmni caffael (ond nid ei holl eiddo),

(b)bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant,

(c)bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (“cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth”) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd,

(d)bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal, ac

(e)nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 19 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 19 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3