ATODLEN 19RHYDDHAD I GWMNÏAU BUDDSODDI PENAGORED
Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored
2
(1)
Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig (“yr ymddiriedolaeth darged”) i gwmni buddsoddi penagored (“y cwmni caffael”) wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored, ac o ganlyniad i hynny, daw’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn rhan o eiddo’r cwmni caffael (ond nid ei holl eiddo),
(b)
bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant,
(c)
bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (“cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth”) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd,
(d)
bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal, ac
(e)
nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael.