Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: atodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

9(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson o fewn paragraff 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm sy’n parhau heb ei dalu cyn diwedd y cyfnod 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(2)Rhaid dyroddi hysbysiad o dan is-baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad pennu’r swm terfynol a grybwyllir ym mharagraff 8(1)(b).

(3)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person y dyroddir yr hysbysiad iddo ei dalu.

(4)Mae’r swm hwnnw yn “swm perthnasol” sy’n daladwy gan y person y dyroddir yr hysbysiad iddo at ddibenion Rhan 7 o DCRhT (talu a gorfodi).

(5)Caiff person sydd wedi talu swm yn unol â hysbysiad o dan y paragraff hwn adennill y swm hwnnw gan y cwmni caffael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 17 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 17 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3