ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL

RHAN 4TYNNU’N ÔL RYDDHAD ATGYFANSODDI NEU RYDDHAD CAFFAEL

Tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt

7(1)Mae rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, wedi ei dynnu’n ôl ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn yn yr achosion a ganlyn.

(2)Yr achos cyntaf yw pan fo paragraff 6(4) (rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp) yn cael effaith er mwyn atal tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid, ond—

(a)bod cwmni sy’n dal cyfranddaliadau yn y cwmni caffael yr oedd y trosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp yn berthnasol iddo, neu sy’n deillio o gyfranddaliadau yr oedd y trosglwyddiad hwnnw yn berthnasol iddynt, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni targed—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)bod y cwmni caffael neu gwmni cyswllt perthnasol, ar yr adeg honno (“yr adeg berthnasol”), yn dal buddiant trethadwy—

(i)a drosglwyddwyd i’r cwmni caffael gan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a drosglwyddwyd felly,

ac nad yw wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol gan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(3)Yr ail achos yw pan fo paragraff 6(7) (rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddiad y mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau yn gymwys iddo) yn cael effaith er mwyn atal tynnu’n ôl ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid, ond—

(a)bod rheolaeth dros y cwmni arall a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno yn newid⁠—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,

ar adeg pan fo’r cwmni hwnnw yn dal unrhyw gyfranddaliadau a drosglwyddwyd iddo gan y trosglwyddiad esempt, neu unrhyw gyfranddaliadau sy’n deillio o gyfranddaliadau a drosglwyddwyd felly, a

(b)bod y cwmni caffael neu gwmni cyswllt perthnasol, ar yr adeg honno (“yr adeg berthnasol”), yn dal buddiant trethadwy—

(i)a drosglwyddwyd i’r cwmni caffael gan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a drosglwyddwyd felly,

ac nad yw wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol gan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(4)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth â gwerth marchnadol testun y trafodiad neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

(5)Yn is-baragraffau (1) a (4), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni caffael neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw ac unrhyw gwmnïau cyswllt perthnasol, yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

(6)Yn y paragraff hwn, ystyr “cwmni cyswllt perthnasol”, mewn perthynas â’r cwmni caffael, yw cwmni—

(a)sydd dan reolaeth y cwmni caffael yn union cyn bod rheolaeth dros y cwmni hwnnw yn newid, a

(b)y mae rheolaeth drosto yn newid o ganlyniad i’r newid yn rheolaeth y cwmni hwnnw.

(7)Yn y paragraff hwn—

(a)mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio;

(b)mae “rheolaeth” i’w ddehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);

(c)mae cyfeiriadau at reolaeth dros gwmni yn newid yn gyfeiriadau at y cwmni yn dod i gael ei reoli—

(i)gan berson gwahanol,

(ii)gan nifer gwahanol o bersonau, neu

(iii)gan ddau neu ragor o bersonau nad yw o leiaf un ohonynt y person, neu un o’r personau, a oedd â rheolaeth dros y cwmni yn flaenorol.