ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP

RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL

I1I77Dehongli: trafodiad a ryddheir

Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd paragraff 2 (rhyddhad grŵp) fel “trafodiad a ryddheir”.

I2I88Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl

1

Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae rhyddhad grŵp wedi ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn.

2

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys, yn achos trafodiad a ryddheir—

a

pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

i

cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, neu

ii

yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

i

a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

ii

sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

3

Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad grŵp pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth ag⁠—

a

gwerth marchnadol testun y trafodiad, a

b

os rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw,

neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

4

Yn is-baragraffau (1) a (3), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni sy’n drosglwyddai neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw a’i gwmnïau cyswllt perthnasol yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

5

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn cysylltiad â’r prynwr, yw cwmni—

    1. a

      sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr yn union cyn i’r prynwr beidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr, a

    2. b

      sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

6

Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 9 ac 10 (achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl) a pharagraff 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol).

I3I99Achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl

1

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 yn yr achosion a ganlyn.

2

Yr achos cyntaf yw pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

a

o ganlyniad i unrhyw beth a wneir at ddibenion, neu yng nghwrs, dirwyn i ben y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, neu

b

am fod y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp yn peidio â bodoli fel arall.

3

At ddibenion is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.

4

Yr ail achos yw—

a

pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod cwmni arall (“y cwmni caffael”) wedi caffael cyfranddaliadau a bod, mewn perthynas â’r caffaeliad—

i

adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) yn gymwys (y dreth stamp: rhyddhad caffael), a

ii

yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno wedi eu bodloni, a

b

bod y prynwr, yn union ar ôl y caffaeliad hwnnw, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.

5

Ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (4), mae is-baragraff (6) yn gymwys—

a

os yw’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael—

i

cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

ii

yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael, os yw’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

i

a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

ii

sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

6

Mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr.

7

Yn is-baragraff (5)—

  • ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn perthynas â’r prynwr, yw cwmni sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

I4I1010Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl pan fo gwerthwr yn gadael grŵp

1

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr am fod y gwerthwr yn gadael y grŵp.

2

Ystyrir bod y gwerthwr yn gadael y grŵp os yw’r cwmnïau yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp oherwydd trafodiad sy’n ymwneud â chyfranddaliadau—

a

yn y gwerthwr, neu

b

mewn cwmni arall—

i

sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, a

ii

sydd, o ganlyniad i’r trafodiad, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr.

3

At ddiben is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.

4

Ond os yw rheolaeth dros y prynwr yn newid ar ôl i’r gwerthwr adael y grŵp, mae paragraffau 8, 9(4) a (6), 13 a 14 yn cael effaith fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (ond gweler is-baragraff (7)).

5

At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros y prynwr yn newid os yw—

a

person sydd â rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

b

person yn cael rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

c

y prynwr yn cael ei ddirwyn i ben.

6

At ddibenion is-baragraff (5), nid oes gan berson (“P”) reolaeth dros y prynwr, ac nid yw’n cael rheolaeth dros y prynwr, os oes gan berson arall neu bersonau eraill reolaeth dros P.

7

Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys pan fo—

a

rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

b

y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

8

Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at “rheolaeth” i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (yn ddarostyngedig i is-baragraff (6)).

I5I1111Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o ganlyniad i drosglwyddiadau penodol busnes etc. gan gymdeithasau cydfuddiannol

1

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8—

a

pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad,

b

pan fu trafodiad a ryddheir cyn dyddiad y trosglwyddiad perthnasol, ac

c

o ganlyniad i’r trosglwyddiad hwnnw, pan fo’r prynwr yn y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

i

cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

ii

yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad” yw—

a

trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 10(1)(a) a (b) o Atodlen 22 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau adeiladu);

b

trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraffau 11(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cyfeillgar);

c

trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 12(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol neu undebau credyd).

I6I1212Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol

1

Yn achos trafodiad a ryddheir—

a

pan fo rheolaeth dros y prynwr yn newid,

b

pan fo’r newid hwnnw yn digwydd—

i

cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

ii

yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,

c

pe na byddai rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir, oni bai am y paragraff hwn, yn cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8, a

d

pan fo unrhyw drafodiad blaenorol yn dod o fewn is-baragraff (3),

mae paragraffau 8, 9 ac 10 yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir fel pe bai’r gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf sydd o fewn is-baragraff (3) yn werthwr yn y trafodiad a ryddheir.

2

Mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).

3

Mae trafodiad blaenorol o fewn yr is-baragraff hwn—

a

os yw’r trafodiad blaenorol yn drafodiad a ryddheir neu os yw wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael),

b

os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith lai na 3 blynedd cyn dyddiad y digwyddiad sydd o fewn is-baragraff (1)(a),

c

os yw’r buddiant trethadwy a gaffaelir o dan y trafodiad a ryddheir gan y prynwr yn y trafodiad hwnnw yr un fath â’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad blaenorol gan y prynwr yn y trafodiad blaenorol, neu’n ei ffurfio, yn ffurfio rhan ohono, neu’n deillio ohono, a

d

os nad yw, ers y trafodiad blaenorol, y buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad hwnnw wedi ei gaffael gan unrhyw berson mewn trafodiad nad yw’n drafodiad a ryddheir nac wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael).

4

At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros gwmni yn newid os yw—

a

unrhyw berson sydd â rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

b

person yn cael rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

c

y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.

5

Mae cyfeiriadau at “rheolaeth” yn y paragraff hwn i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

6

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo—

a

rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

b

y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

7

Os dau drafodiad neu ragor y rhoddwyd effaith iddynt ar yr un pryd yw’r trafodiadau blaenorol cynharaf o fewn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at y gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf yn gyfeiriad at y personau sy’n werthwyr yn y trafodiadau blaenorol cynharaf.

8

Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.