ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP
RHAN 3CYFYNGIADAU AR ARGAELEDD RHYDDHAD
4Cyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp
1
Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os oes trefniadau ar waith, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, sy’n golygu—
a
bod gan berson neu y gallai person gael, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr, neu
b
bod gan unrhyw bersonau neu y gallai unrhyw bersonau gael, gyda’i gilydd, ar yr adeg honno neu ar ryw adeg ddiweddarach, reolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r nod o gaffael cyfranddaliadau gan gwmni (“y cwmni caffael”)—
a
y bydd adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) (y dreth stamp: rhyddhad caffael) yn gymwys iddo,
b
y bydd yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno yn cael eu bodloni mewn perthynas ag ef, ac
c
y bydd y prynwr, o ganlyniad iddo, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.
3
Nid yw rhyddhad grŵp ar gael os rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â threfniadau, neu mewn cysylltiad â threfniadau pan fo—
a
y gydnabyddiaeth, neu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, ar gyfer y trafodiad i’w darparu neu i’w derbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp, neu
b
y gwerthwr a’r prynwr i beidio â bod yn aelodau o’r un grŵp am fod y prynwr yn peidio â bod yn is-gwmni 75% i’r gwerthwr neu i drydydd cwmni.
4
Mae trefniadau o fewn is-baragraff (3)(a)—
a
os yw’r gwerthwr neu’r prynwr, neu un arall o gwmnïau’r grŵp, i gael ei alluogi i ddarparu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, neu i roi’r gorau i unrhyw ran ohoni, drwy wneud neu o ganlyniad i wneud trafodiad neu drafodiadau, a
b
os yw’r trafodiad neu’r trafodiadau, neu unrhyw rai ohonynt, yn cynnwys taliad neu warediad arall gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp.
5
Yn is-baragraffau (3)(a) a (b), ystyr “un o gwmnïau’r grŵp” yw cwmni sydd, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr neu’r prynwr.
6
Yn y paragraff hwn—
mae i “rheolaeth” yr ystyr a roddir i “control” gan adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4);
mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.
7
Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 5 a 6 (trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4).
5Trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4: cwmnïau cyd-fenter
1
Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni cyd-fenter y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—
a
os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau o fewn is-baragraff (2), a
b
os na fu, a chyhyd na fu, unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3) y mae’r trefniadau’n ymwneud â hwy.
2
Mae trefniadau o fewn yr is-baragraff hwn os ydynt—
a
yn gytundeb sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter i un aelod neu ragor o’r cwmni hwnnw pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3), neu o ganlyniad i hynny, neu
b
yn ddarpariaeth yn un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter sy’n darparu ar gyfer atal dros dro hawliau pleidleisio aelod pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol hynny, neu o ganlyniad i hynny.
3
Y digwyddiadau dibynnol y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) a (2) yw—
a
ymadawiad aelod yn wirfoddol,
b
cychwyn trafodiadau datod, gweinyddu, derbynyddiad gweinyddol neu dderbynyddiad ar gyfer aelod, neu aelod yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol, o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S.1989/2405 (G.I.19)) neu gychwyn, neu ymrwymo i, achos neu drefniadau cyfatebol o dan gyfraith unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
c
dirywiad difrifol yng nghyflwr ariannol aelod,
d
rheolaeth dros aelod yn newid,
e
methiant ar ran aelod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan unrhyw gytundeb rhwng yr aelodau neu â’r cwmni cyd-fenter (sydd, at y diben hwn, yn cynnwys unrhyw un neu ragor o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter),
f
newid allanol yn yr amgylchiadau masnachol y mae’r cwmni cyd-fenter yn gweithredu ynddynt i’r graddau bod bygythiad i’w hyfywedd,
g
anghytundeb heb ei ddatrys rhwng yr aelodau, a
h
unrhyw ddigwyddiad dibynnol tebyg i’r rhai a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g) y darperir ar ei gyfer, ond na fwriadwyd iddo ddigwydd, pan ymrwymwyd i’r trefniadau o dan sylw.
4
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pe gallai aelod, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad—
a
trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau, neu
b
atal dros dro hawliau pleidleisio aelod,
cyn un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol.
5
At ddibenion is-baragraff (4), nid yw aelodau yn gysylltiedig â’i gilydd yn unig oherwydd eu bod yn aelodau o’r cwmni cyd-fenter.
6
Yn y paragraff hwn—
ystyr “aelod” (“member”) yw deiliad cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter;
ystyr “cwmni cyd-fenter” (“joint venture company”) yw cwmni—
- a
sydd â dau neu ragor o aelod-gwmnïau, a
- b
sy’n ymgymryd â gweithgarwch masnachol a lywodraethir gan gytundeb sy’n rheoleiddio materion ei aelodau;
- a
ystyr “dogfen gyfansoddiadol” (“constitutional document”) yw memorandwm cymdeithasu, erthyglau cymdeithasu neu unrhyw ddogfen arall debyg sy’n rheoleiddio materion y cwmni cyd-fenter.
6Trefniadau morgais penodol nad ydynt o fewn paragraff 4
1
Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—
a
os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau yn forgais, a sicrheir gan gyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni, sydd yn achos drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad arall yn caniatáu i’r morgeisai arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr, a
b
os nad yw, a chyhyd nad yw, y morgeisai wedi arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.
2
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—
a
os yw’r morgeisai yn meddu ar fwy o hawliau mewn cysylltiad â’r cyfranddaliadau neu’r gwarannau y mae’r morgais yn ymwneud â hwy nag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn gwarchod ei fuddiant fel morgeisai, neu
b
pe gallai’r morgeisai, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad y drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad sy’n caniatáu iddo arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.
3
At ddibenion is-baragraff (2)(b), nid yw morgeisai, yn unig oherwydd y morgais, yn gysylltiedig â chwmni y mae’r morgais yn ymwneud â’i gyfranddaliadau neu ei warannau.
4
Yn y paragraff hwn ystyr “morgais”—
a
yng Nghymru a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon, yw unrhyw arwystl cyfreithiol neu ecwitïol, a
b
yn yr Alban, yw unrhyw hawl sicrhad.